Ymwan a Ffair Ganoloesol Y Waun
Mae Gwyliau a Digwyddiadau yn brosiect a gydlynir gan bedair partneriaeth datblygiad gwledig sydd wedi'u gwasgaru ledled Cymru. Gogledd Gororau Cymru yw partneriaeth adfywio gwledig Wrecsam.
Nod y prosiect hwn yw darparu cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i grwpiau cymunedol sy'n cynnal neu sy'n dymuno cynnal digwyddiadau. Anogir grwpiau i rwydweithio ymysg ei gilydd er mwyn rhannu'r dysgu ac fel bo digwyddiadau'n cael eu cynnal yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mae'r prosiect Gwyliau a Digwyddiadau yn anelu at gynyddu'r budd economaidd lleol y mae gwyliau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio, eu trefnu a'u hyrwyddo'n dda yn ei roi i ardaloedd gwledig ac i atgyfnerthu a dangos y rhan y maent yn ei chwarae yn gymdeithasol yn ogystal ag yn economaidd.
Sylwer: Nid yw'r prosiect hwn ar gael yn ardal Wrecsam bellach ond os hoffech siarad gyda rhywun am eich digwyddiad, ewch i'n tudalen gysylltiadau.
Os hoffech chi ddod yn gysylltiedig â'r wefan Gwyliau a Digwyddiadau, cysylltwch â Clare Lightfoot, Gogledd Gororau Cymru ar