Ymwan a Ffair Ganoloesol Y Waun
Cyngor defnyddiol ar gyfer trefnu digwyddiad llwyddiannus
- Cyn i chi benderfynu cynnal digwyddiad, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:-
- A oes gennym ddigon o arian?
- Lle allwn ei gynnal?
- A oes gennym ddigon o weithlu?
- A fydd y gymuned yn cefnogi'n digwyddiad?
- Ceisiwch sicrhau nad yw eich digwyddiad yn gwrthdaro ag unrhyw ddigwyddiadau tebyg neu ddigwyddiadau lleol eraill
- Gwnewch eich digwyddiad yn un cyffrous a chofiadwy
- Rhowch thema neu ffocws amlwg i'ch digwyddiad
- Hyrwyddwch eich digwyddiad yn dda - dosbarthwch ddatganiadau i'r wasg cyn ac ar ôl y digwyddiad
- Neilltuwch eich lleoliad yn gynnar
- Gwiriwch fod gan y lleoliad wasanaethau angenrheidiol megis dwr a thrydan a bod digon o leoedd parcio hefyd
- Trefnwch yswiriant ar gyfer y digwyddiad
- Ystyriwch anghenion ymwelwyr anabl
- Gwerthuswch y digwyddiad ar ôl a cheisiwch gynnwys cymaint ag sy'n bosibl o bobl yn y broses - bydd hyn yn ffurfio sail os byddwch yn dewis ail-gynnal y digwyddiad
Mae ein pecyn hyfforddi yn darparu cyflwyniad i'r rhaglen hyfforddi sy'n hawdd i'w ddilyn ac sy'n cynnwys gwybodaeth gyswllt ddefnyddiol ar gyfer trefnwyr sydd wedi'u lleoli yn Wrecsam.
Lawrlwythwch ein Pecyn Hyfforddiant
Lawrlwythwch ein Rhestr Cyflenwyr*
* Ymwadiad: Nid yw Gogledd Gororau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam nac unrhyw un o'i aelodau cysylltiol yn arnodi unrhyw un o'r cwmnïau ar y rhestr hon. Er y credir bod cynnwys y rhestr yn ddilys, nid ydym yn rhoi sylwadau nac yn gwarantu cywirdeb neu gyflawnrwydd y wybodaeth a gynhwysir.
Nid yw Gwyliau a Digwyddiadau yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddefnydd a wneir o'r rhestr cyflenwyr. Ni ddylid dibynnu ar unrhyw beth yn y ddogfen hon ac mae Gwyliau a Digwyddiadau yn cadw'r hawl i dynnu eitemau oddi ar y rhestr.
Ydych chi'n trefnu digwyddiad?